top of page
Ein Gwaith
Eich Ystafelloedd
Pa un ai a ydych eisiau adnewyddu eich cartref neu eiddo neu eu hailwampio yn llwyr, gallwn eich helpu i wireddu eich gweledigaeth. Neu os ydych yn brin o ysbrydoliaeth, gallwn eich helpu i ddatblygu eich syniadau.
Gyda chefnogaeth ein tîm o wneuthurwyr a gosodwyr dibynadwy, rydym yn darparu cyngor dylunio, dodrefn meddal unigryw a gwasanaethau clustogwaith dethol.
Rydym yn mynd ati i ddeal yr hyn y mae ein cleientiaid yn ei ddymuno o'u hystafelloedd ac yn defnyddio ein sgiliau creadigol a threfniadol i'w helpu i gyflawni hynny.
Mae gennym agwedd gyfeillgar, broffesiynol ac ymarferol

Pa un ai a ydych yn ystyried prosiect neu â phrosiect pendant mewn golwg, cysylltwch â ni neu galwch yn y siop i weld beth allwn ei gynnig. Byddem yn falch iawn o gynnig ei help! Gallwch gydw llygad ar ein gwaith ar Instagram a Facebook hefyd.

Ein Siop
Bethel, Ynys Môn yw canolfan ein busnes cynllunio mewnol a lle mae ein cleientiaid yn dod i ddewis o blith ein hystod eang o ddefnyddiau a gosodiaidau. Mae ein siop yn llawn dodrefn 'fintej' a modern cain a dymunol, yn ogystal ag ategolion steilio cartref eraill megis drychau, lluniau, goleuadau, fasys, clustogau, carthenni, rygiau a chanhwyllau.
bottom of page